Posted by Norena Shopland
Sarah Jane Rees (Cranogwen) loved Fanny Rees (1853-1874) a local milliner’s daughter. Like Cranogwen, Fanny rejected the feminine role expected of her and quit her job in the mills to become a writer under the bardic name of Phania. Twelve years after Fanny’s death Cranogwen wrote an essay in her magazine Y Frythones describing Fanny.
“Yn awr, yn mhen y deuddeg mlynedd, yr y’m yn cychwyn i blanu blodeuyn ar fedd ein chwaer. Bwriadem wneyd yn gynt, ond nis gallasem ar unwaith. Pe y gwnaethem yn fuan, anhawdd iawn fuasai peidio gorwneyd, mor angerddol oedd ein hiraeth, ac mor siomedig oedd ein bryd. Ac eto, dylasem fod wedi gwneuthur cyn hyn. Mor hwyr- frydig a fuom, fel yr ymddengys fel pe y buasem wedi anghofio, neu wedi ymddiofalhau. Os y’m weledig, neu yn rhywfodd yn hysbyalir rhai ” aethant o’r blaen,” nis gwyddom beth a feddylia hi o honom. A ni ÿn rhwym iddi mewn llawer o fíyrdd, ac yn profíesu, ì:ra yr oedd eto gyda ni, ymlyniad anarferol wrthi, ac edmygèdd o hqni, rhyfedd yr ymddengys ein bod megys wedi esgeuluso ei choffadwriaeth am ddeuddeng mlynedd! Nid yw yn debyg y gwnaethai hi felly â’n heiddo ni, pe felly y buasai yr achos. Ond, nid anghof fu; gwir fod amseryn gwneuthur gwahaniaeth, yn pylu rhywfaint ar fin hiraeth ac yn lleddfu rhywfaint ar y loes, ond nid yw yn dileu yr argraff; a’r esboniad cywir yw, gwaith anhawdd yw trin coffadwriaeth ein hanwyliaid—anhawdd iawn, esmwythach, hawddach o iawer i’r galon yw troi heibio, a pheidio edrych ar y bedd. Hawddach ceisio gan arall blanu blodeuyn, a chwynu, a railio, na gwneuthur hyny ein hunain; o leiaf hyny yw ein profiad ni, o’r hwn hefyd yr y’m yn cael adnewyddiad poenas y blynyddoedd hyn. Boed a fyno, rhaid i ni bellach son rhywbeth am ein chwaer; y mae yr amser i hyny, ni goeliwn, wedi dyfod, a rhaid i ni, os hefyd y gallwn, ymwroli. Ydyw, y mae y deuddeng mlynedd wedi llithro heibio ! Yn mywyd yr ieuanc a’r hen yn ogystal, y mae hyny yn ddarn go fawr, ac yn gwneuthur cryn wahaniaeth. Llawer o’r chwiorydd ieuainc y sydd, y rhan amlaf o ran hyny, na wyddant at bwy y cyfeiriwn ; nid ydynt yn cofio ” Phania,” ac hwyrach na buont o gwbl yn gwybod dim am dani. Yr hen allant fod wedi anghofio. Ond, er ei chymeryd oddi- wrthyro yn 2iain oed, nid oedd ” Phania” gwbl anhysbys i’r byd. Pe y cawsai fyw flynyddoedd yn ychwaneg (fel y gobeithiem y c’ai) daethai yn fwy hysbys, a chawsai llawer deimlo ei gwerth, a derbyn rhinwedd oddiwrthi. Ond ” nid ein meddylau oedd ei feddyliau Ef” ar hyn hefyd. Hanes ein chwaer a ellid ei grynhoi i ychydig iawn o linellau ; ni bu ei hoes yn hir, nac yn rhyw lawn iawn o amgylchiadau ; ystyr ei bywyd a’i amcanion er hyny, a ystyriwn o werth eu dwyn i sylw, a’u cadw mewn cof. Merch teulu crefyddol a chyfrifol yn nyffryn Troedyraur* Ceredigion, oedd ” Phania”; ganwyd, ni goeliwn, yn y flwyddyn 1853, ac aet^ ymaith yn y flwyddyn 1874. Cafodd ysgol gyffredin, dysgai yn dda, a darllenai yn ddibrin ; cyflawnodd ei hun felíy a llawer o wybodaeth. Gallwn yn ddyogel ddweyd nad oedd nemawr un yn ei hardal yn agos bod yn gyfartal iddi yn yr hyn a wyddai. Yr oedd hefyd o duedd fyfyrgar ac ymchwilgar; meddyliai lawer, a meddai farn araf ac aeddfed ar bob mater ac achos adnabyddus iddi. Teimlem bob amser yn fantais i glywed yr hyn a dd)’wedai ” Phania” am beth, a chymaint a hyny y tnodd y dywedai. Mor goeth ydoedd yn ei geiriau, ac mor ochelgar ac araf yn ei sylwadau, mor ffraeth hefyd yn ei ffordd hi, fel y byddai yn wastad yn fwynhad ac yn foddhad i glywed ei gair a’i sylw. Yn wir, barn un cyflawn oedran a synwyr, a geiriau un wedi ei ddysgu yn dda mewn ymadrodd, ydoedd ei heiddo hi yn wastad; a chan mor amddifad o byn yw llawer o honom, amheuthyn yw pan ei ceir. Gwylaidd a shy, ac o iechyd gwanaidd y byddai ein chwaer bob amser; ac eto amlwg ydoedd o’r dechreu, yn y Society, yn yr Ysgol Sul, a’r Band of Hope. Gyda’r adnod bwrpasol (dyeithr hefyd ond odid), y wers, a’r darn i’w adrodd, nid oedd nemawr o’i chyffelyb. Nid oedd ei llais pan siaradai yn hyawdl, na hyglyw iawn, ond yr oedd yno ddwysder teimlad yn dyfod allan, ag a barai ddylanwad bob amser, ac a brofai mai nid un gyífredin oedd hi. Dechreuodd ysgrifenu yn gynar ar ei hoes, nid y’m yn awr yn cofìo pa mor gynar, ac ysgrifenodd lawer. Cadwai gofnodion; ysgrifenai draethodau, y cwbl yn brofion o feddwl bywiog, wedi ei ystoiio yn dda i un yn ei hoedran hi, ac yn addaw llawer yn y dyfodol, os y rhoddid iddo fanteision, ac yr estynid ei oes ar y ddaear. Yn y Cylchgrawn, y Drysorfa fawr, a Thrysoifa y Plant yn fwyaf, yr ymddangosai ífrwyth ei hysgrifell. Gwasanaethai yn y felin hyd ei blynyddoedd boreuaf; ac er bod felly ryw gymaint yn gaeth i waith a dyledswydd, trwy fod yn aelod o deulu cyd-chwaeth a hi, a chefnogol i’w bryd a’i buchedd bur, y tad y tuhwnt i’r cyffredin o ddeallgar a chrefyddol, yn aelod hefyd o eglwys nid anenwog, cafodd hi lawer o fantais i gynyddu yn y ffordd oedd dda. Yn y flwyddyn 1873, gan fod a’i bryd yn fawr ar gael ychwaneg o addysg, a chyf- lwyno ei hun ryw ffordd, mewn rhyw waith na wyddai yn iawn pa un, i’r byd, gollyngwyd i’r Brifddinas i ysgol, lle y bu, am ni dybiwn, w}’th neu naw mis, lle yr enillodd iddi ei hun lawer o gyfeillion mynwesol, ac y gwnaeth yr holl gynydd y gellid ei ddysgwyl. Cystudd ac angeu a ddaeth i’r teulu yr amser hwn; siglodd hyny seiliau ei hiechyd hithau yn fwy, a phruddhaodd ei hysbryd, na fuasai erioed o ran hyny yn chwareu yn rhydd yn y cywair llon. Dychwelodd tua diwedd y flwyddyn. Ymagorai ei meddwl am ddyfodol o waith a chyfrifoldeb, a gwasanaeth ar y ddaear—ar, ni goeliwn, gael dwyn y gwirionedd am Dduw a Christ i rywle na ddygesid eto. Ond nid felly oedd yr arfaeth ; methu a wnaeth hi o radd i radd, nes methu yn hollol, a dianc oddiarnom yn liwyr un nos Sabboth yn hydref cynar y flwyddyn 1874. Bu hyn o dan gronglwyd ysgrifenydd y llinellau hyn, ac er hyny hyd yn awr, y mae wedi ei hystyried yn ffafr arbenig iddi oddiwrth y neb y mae ” marwolaeth ei saint yn werthfawr yn ei olwg.” Claddwyd yn mynwent newydd Twrgwyn, ar bwys ei thair chwaer a roddasid yno o’i blaen. Enw priodoi ein ffrynd oedd Fanny Rees; cymerodd iddi ei hun yr enw ffugiol ” Phania ” i’w osod wrth ei hysgrifau.
Rhai o’r elfenau a ffurfient ei chymeriad a’i neillduolrwydd oeddynt, synwyr cyffredin cryf; chwaeth bur; ymddyheuad am wybodaeth; serchawgrwydd cynes; hunanymwadiad llwyr; a chrefyddolder dwfn; hyn oll oedd amlwg iawn ynddi, ac yn hyn oll, yr oedd mewn modd arbenig yn ferch ei thad. Nid ydym yn tybied ddarfod i neb weled neu brofi difiyg neu ball ynddi yn un o’r pethau hyn; yn sicr ni welsom ein hunain. ” Bai,” ar a wyddom ni, nid oedd ynddi, nac ” amryfusedd.” Yr unig berthynas bell i hyny (os felly hefyd) ynddi, ydoedd mesur o shyness, y gellid ei gyfrif, efallai, rywbeth y tuhwnt i’r hyn fyddai ddymunol a chyfleus o wyleidd-dra. Ond nid oedd hyny ond íìrwyth naturiol bywyd i fesur yn neillduedig. Buasai ymdroi mewn cymdeithas, ac ymwneyd â’r byd yn eangach yn ei gymeryd oU i fiwrdd. Ei synwyr cyífredin ydoedd edmygol; anhawdd fyddai cael esiampl neu enghraiíìt well. Ei chwaeth hefyd ydoedd odiaeth o bur. A glywodd rhywun hi ryw bryd yn dweyd gair anghymeradwy neu anwyliadwrus ? Nid y’m yn tybied ; o leiaf ni chlywsom ni ddim yn dyfod, hyd yn nod yn agos i hyny. Ceisio am wybod, a gwybod ychwaneg, a gwybod yn well, ydoedd ei hoífaf a’i holl fryd, hyny a wn’ai hyd at roddi iddi ei hun, dan bwn ei gwendid cyfansodd- iadol, oriau, os nad nosau o anhunedd. Ei rhieni, ei pherthynasau, a’i chyfeillion a garai yn angerddol. Ynddi hi yr oedd yn hollol wir, ” Cariad sydd gryf fel angeu “; a’u gadael yn ei hunfed fìwydd ar hugain—ydoedd iddi yn amlwg yn gyfyngder enbyd. Ei chrefyddolder nid amheuai neb ond hi ei hun. Y capel a’i wasanaeth, a’r Efengyl a’i hordinhadau, ydoedd ei phrif ddifyrwch. Sicr y’m na wyddai am, ac na ddymunai un gwahanol a gwell; a chariad at Dduw a Christ ydoedd elfen gref ei bywyd mwyaf mewnol ac ysbrydol. Nid ei heiddo hi, boed fyno, ydoedd y fraint i fod yn llawen ac yn orfoleddus yn ei chrefydd ; canys dwm-feddylgar oedd, manwl y tuhwnt i’r rhan amlaf; felly yn union yr oedd ei thad; felly y bu fyw, ac felly y bu farw. Mewn fíydd er hyny; ac felly hithau, heb foddloni ei hun o lawer am yr undeb cyfamod rhyngddi a Duw, a chan hyny heb brofi fawr o orfoledd teimlad ; ond mor bur yn mhob ystyr, fel nad allai lai nac ymgodi yn ddyogel, pan ei rhydd- hawyd o fraich y cnawd, i ” wlad y rhai pur.” Y mae wedi bod yno ddeuddeng mlynedd (o fesur y ddaear) bellach, ei thad un-ar-ddeg, chwiorydd ereill iddi, dair o honynt, fwy na hyny, a synu y byddwn weithiau, a cheisio dyfalu, yn mha le neu radd y mae yn awr, a sut y mae. ” Nid amlygwyd eto beth a fyddwn.” Bwriadwn roddi dyfyniadau o’i dyddlyfrau yn ein rhifyn nesaf.
Source: Y Frythones, viii, No. 6, June 1886.
For the original magazine at The National Library of Wales, Welsh Journals, click here.